Global Wales - a Partnership to promote International Higher education in Wales
The Welsh Government's announcement of the brand new £65 million International Learning Exchange programme for Wales puts Wales and its global ambitions firmly on the map. The programme will provide funding for inward and outward mobilities for students and staff across a wide range of education settings and will be in operation from 2022-2026.
The announcement also includes a significant expansion of the Global Wales programme. Global Wales is an international higher education programme led by Universities Wales in partnership with Welsh Government, British Council Wales and the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW).It aims to boost Wales' profile as a study destination and partner of choice through presenting a joined-up view of our higher education system. In doing so the project contributes to the overall objectives of growing HE's export contribution and boosting Wales' profile internationally.
Why should you attend?
To celebrate Global Wales' achievements thus far, and to discuss opportunities going forward under the new ILE, we are planning a virtual Global Wales Conference on July 6, 2021. This conference will bring together our high-profile international and domestic partners to discuss a wide range of thematic areas and to explore how international collaboration might evolve into the future for Wales, but for worldwide collaborations broadly, as well.
We welcome international educators, policy-creators, colleagues, and stakeholders to join the development process and conversations surrounding the current and forthcoming challenges and opportunities in international education.
Cymru Fyd-eang - Partneriaeth i hyrwyddo Addysg Uwch Ryngwladol yng Nghymru
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol newydd sbon gwerth £65 miliwn ar gyfer Cymru’n rhoi Cymru a'i huchelgeisiau byd-eang yn gadarn ar y map. Bydd y rhaglen yn darparu cyllid fydd yn galluogi myfyrwyr a staff i symud i mewn ac allan o Gymru, ar draws ystod eang o leoliadau addysg, a bydd ar waith rhwng 2022-2026.
Mae'r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys ehangu sylweddol ar raglen Cymru Fyd-eang. Rhaglen addysg uwch ryngwladol yw Cymru Fyd-eang dan arweiniad Prifysgolion Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Ei nod yw hybu proffil Cymru fel cyrchfan astudio a phartner o ddewis trwy gyflwyno golwg gydgysylltiedig o'n system addysg uwch. Wrth wneud hynny mae'r prosiect yn cyfrannu at amcanion cyffredinol cynyddu cyfraniad allforio AU a hybu proffil Cymru yn rhyngwladol.
Pam ddylech chi fynychu'r gynhadledd?
I ddathlu'r hyn mae Cymru Fyd-eang wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ac i drafod cyfleoedd wrth symud ymlaen o dan y rhaglen CDRh newydd, rydym yn bwriadu cynnal Cynhadledd rithwir Cymru Fyd-eang ar 6ed Gorffennaf 2021. Bydd y gynhadledd hon yn dwyn ynghyd ein partneriaid uchel eu proffil, rhyngwladol a domestig i drafod ystod eang o feysydd thematig ac i archwilio sut y gallai cydweithredu rhyngwladol esblygu yn y dyfodol, nid yn unig er budd Cymru, ond ar gyfer trefniadau cydweithredu ledled y byd yn ogystal.
Rydym yn croesawu addysgwyr, crewyr polisi, cydweithwyr a rhanddeiliaid rhyngwladol i ymuno â'r broses ddatblygu, yn ogystal â sgyrsiau ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd cyfredol a'r rhai sydd ar ddod ym maes addysg ryngwladol.